
Albwm Hudol Palenco
Mae Ikaching yn hynod gyffroes o ryddhau albwm cyntaf y melys freuddwydiol Palenco, sy’n dwyn yr un teitl ag enw’r band, ar 29ain o Fehefin, 2015.
Er nad yw Palenco ond wedi bodoli ers cwta flwyddyn, bu i’w sengl gyntaf 7”, ‘Bath’ / ‘Saethu Cnau’ (Klep Dim Trep) greu argraff. Ydych chi’n cofio’r clawr, wedi ei greu yn llythrennol, wrth saethu cnau a phaent?!
Mae aelodau Palenco’n gerddorion sefydledig yng Nghymru bellach – Llŷr Pari (Y Niwl, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog) a Dafydd Owain (Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco), ond i enwi dau. Dau gerddor sydd wedi chwarae ar bron pob llwyfan bosib yng Nghymru, pan oeddynt yn eu harddegau cynnar. Efallai mai dyma’r rheswm tros aeddfedrwydd y sŵn, y cyfeiriad clir a’r perfformiadau graenus, hudol.
Mae’r cyfeiriad yma’n amlwg yn y llinyn sy’n clymu’r sengl a’r albwm. Mae’r un cyfoethogrwydd a manylder yn treiddio trwy’r cyfan. Ceir yma gasgliad o ganeuon sydd wedi eu cyfansoddi ers tros 6 mlynedd, a rhai newydd sbon – “Best of o rywbeth sydd heb ddigwydd eto,” meddai Dafydd. Ond mae’r cwbl yn clymu’n hardd yn y casgliad hwn, a recordiwyd yn stiwdio Llŷr, gan y band eu hunain. Eu creadigaeth a’u gweledigaeth gerddorol nhw eu hunain yn unig.
Mae Palenco hefyd yn falch iawn o glawr trawiadol eu halbwm. Dyma ddarn o waith celf gan yr artist Meirion Ginsberg, sy’n gweddu’n berffaith gyda’r amryfal sôn am ddŵr a’r haf a geir gydol yr albwm.
Fe glywyd rhagflas o ‘Palenco’ ar donfeddi’r radio eisoes – ‘Pysgod Du’ ar Radio Cymru a ‘Swimming’ ar Radio Wales. Meddai Georgia Ruth, Radio Cymru: “Cerddorieth sy’n gwrthod setlo mewn un lle; mae o’n newid siâp, mae o wastad yn symud. A ti’n cal dy dynnu mewn i’r pwll! Dwi wrth fy modd!”
Gellir prynu’r albwm yma, o’ch siopau Cymraeg, neu ei lawrlwytho o’r gwefannau cerddoriaeth arferol.