
Glain Rhys
26 Ionawr 2021
Croesawyd Glain Rhys i label recordiau I KA CHING drwy ryddhau ei sengl ‘Plu’r Gweunydd’ ym mis Mai 2021.
Wedi dwy flynedd o fethu’n lân a ‘sgwennu ar ôl rhyddhau ei halbwm ‘Atgof Prin’ yn 2018 (Sain), dychwelodd Glain gyda sain newydd ddisgrifiodd hi fel ‘epig, arbrofol, angerddol’ mewn cyfweliad yn rhifyn Haf 2023 o gylchgrawn Y Selar.
Roedd ‘Sara‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.
Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf ar y label yn 2023, ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ yn 2023, yn dilyn y senglau ‘Swedish Tradition‘, ‘Eira Flwyddyn Nesa‘ gyda Gildas a ‘Hed Wylan Deg‘. Cyrrhaeddodd yr albwm restr fer ‘Record Hir Orau’ yng Ngwobrau’r Selar 2023.
Rhagor:
Fideo – Sara