
Yr Un Hen Stori – Glain Rhys
Mae’n bleser gan Recordiau I KA CHING ryddhau sengl newydd sbon gan yr artist Glain Rhys – ‘Yr Un Hen Stori’ – ar y 7fed o Chwefror 2025.
Mae Glain Rhys yn llais cyfarwydd i ni bellach trwy ganeuon megis ‘Sara’, ‘Plu’r Gweinydd’ ac ‘Y Ferch yn Ninas Dinlle’ heb sôn am ei gyrfa ar y llwyfan gyda chriw Welsh Of The Westend ac yn ddiweddar, Cwmni Theatr Maldwyn.
Cydiodd thema ‘Yr Un Hen Stori’ wedi achos llofruddiaeth y bwa croes ar Ynys Môn. Sut y mae pobl yn adrodd unrhyw beth y maen nhw’n ei glywed, er nad oes sail iddo, a’r cyfan yn troi’n ‘Chinese whispers’. Dydi’r stori ar ddechrau’r gân ddim yr un peth a’r stori ar y diwedd.
Recordiwyd y gân yn stiwdio Graig Las hefo Siôn Roberts ac mae’n dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid megis Pale Waves, Catty ac Olivia Rodrigo. Sain pop, alawon bachog ac emosiwn sy’n gyrru’r gân, fel rhyw fath o “ddyddiadur cerddorol”, eglura Glain.
“Mae hi’n efelychu symlrwydd yr albwm gynta’”, meddai Glain, “tra’n dal gafael ar naws arbrofol, a sain fwy pop yr ail albwm. Ond ‘de ni wedi chwarae gyda syniadaeth drymach yn y gitars gan Siôn, sy’n dod yn naturiol iddo, ac yntau yn cynhyrchu ac yn drymio i Fleur de Lys.”
Bydd ‘Yr Un Hen Stori’ allan ddydd Gwener yma a hynny ar Ddydd Miwsig Cymru.