
Swedish Tradition – Glain Rhys
Mae’n bleser gan label recordiau I KA CHING ryddhau ail sengl Glain Rhys sef ‘Swedish Tradition’ ar 30.04.21.
Wedi dwy flynedd o fethu’n lân a ‘sgwennu ar ôl rhyddhau ei halbwm ‘Atgof Prin’ yn 2018 (Sain) mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd a’r addewid o albwm erbyn yr haf. Rhyddhawyd y sengl ‘Plu’r Gweunydd’ ddechrau Chwefror, gan ddangos blas o sŵn a chyfeiriad mwy electronig Glain.
Mae’r gân bop iasol ‘Swedish Tradition’ yn trafod hen draddodiad Gŵyl Ifan Ganol Haf o Sweden. Byddai merched Ifanc yn rhoi saith blodyn gwyllt o dan eu gobennydd yn y gobaith y bydden nhw’n breuddwydio am eu gwir gariad.
Meddai Glain, “Yn y gân, dwi’n canu am rywun sydd yn gwrthod cysgu oherwydd ei bod hi’n gwrthod cydnabod ei bod hi mewn cariad. Dwi wrth fy modd gyda blodau-nad-fi’n-angof a’r llinell gyntaf ddaeth i mi oedd “Forget me nots, ironically don’t make me think of you”. Mae hon yn dilyn trywydd ychydig yn wahanol eto, a dwi’n hynod gyffrous i’w rhyddhau hi!”
Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad y gân ac Osian sy’n chwarae’r holl offerynnau ychwanegol.
Mae dylanwadu newydd Glain yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.