
Llif yr Awr – Mared + Gwenno Morgan
Rhyddheir Llif yr Awr – sengl ar y cyd rhwng Mared a Gwenno Morgan – ar yr 2il o Ebrill, 2021 ar Label Recordiau I KA CHING.
Dyma ganlyniad cyfuniad o ddoniau a dylanwadau’r ddeuawd o’r gogledd, Mared a Gwenno Morgan. Cyfarfu’r ddwy ar gwrs cerddoriaeth ym mhrifysgol Leeds dair blynedd yn ôl, ac mae’r ddwy wedi dod ynghyd i greu Llif yr Awr – trac sy’n plethu synau hudolus piano a synth, gyda geiriau ac alaw gan Mared a chynhyrchiad ac offeryniaeth gan Gwenno.
Gwelwyd y ddwy yn perfformio Llif yr Awr yn acwstig ar bennod ddiweddar o Curadur Lŵp ar S4C. Mae’r gân, sy’n sôn am fod yn amyneddgar wrth greu, yn enghraifft o’r haenau o synau allweddell a fydd i’w glywed ar EP gyntaf Gwenno Morgan, ‘Cyfnos’ ac sydd i’w clywed yn britho albwm cyntaf Mared, ‘Y Reddf’.
Crëwyd gwaith celf prydferth y sengl gan Penglog (Steffan Dafydd), cymysgwyd a mastrwyd y sengl gan Drwm yn Stiwdio Sain a pherfformiwyd y bas a’r drymiau gan Osian Huw Williams.
Bydd Llif yr Awr yn Drac yr Wythnos, Radio Cymru yn ystod wythnos 29ain o Fawrth.