
Hei Be Sy – Y Cledrau
Pedair blynedd wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Peiriant Ateb’, mae Y Cledrau yn eu holau gyda chwip o sengl. Rhyddheir ‘Hei Be Sy’ ar 14.05.21 ar label recordiau I Ka Ching.
Dyma drac sy’n cymysgu geiriau gorffwyll llif yr ymwybod â sain galed, riffs cofiadwy ar y gitâr. Mae’n gân sy’n llawn pytiau geiriol ffraeth a’r angst felancolig sydd yn rhemp drwy holl gynnyrch y band.
Fe recordiwyd ‘Hei Be Sy’ yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Mae Y Cledrau (Joseff Owen, Ifan Prys, Marged Gwenllian ac Alun Lloyd) yn hynod gyffrous o gael cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl gyda’r actor nodedig Llyr Ifans yn serennu, a Dafydd Hughes, Amcan yn cynhyrchu a chyfarwyddo.
Bydd rhagor o gyhoeddiadau cyffrous am gerddoriaeth y pedwarawd swnllyd o’r gogledd yn fuan.