
Slofi – Talulah
4 Awst 2023 | Newyddion
Mae I KA CHING yn falch o gyhoeddi ail sengl Talulah, ‘Slofi’.
Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah ac maent yn plethu jazz a synau clasurol gyda lleisiau breuddwydiol a harmonïau cyfoethog. Mae ‘Slofi’ yn dilyn eu sengl gyntaf ‘Byth yn Blino’ gafodd ei rhyddhau fis Ebrill eleni.
Eglura Talulah: “Mae’r gân yn myfyrio ar y broses o slofi lawr, a sut ma’ perthynas ar unrhyw ffurf yn gallu cryfhau hyn. Mae ganddi bassline cryf a churiad araf i amlygu ei hanfod gwreiddiol.”
Wedi’i ’sgwennu gan Talulah, ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Llŷr Pari, a’i mastro gan Iwan Morgan, bydd ‘Slofi’ allan ar y llwyfannau digidol ddydd Gwener 4ydd Awst.