Dafydd Owain

Uwch Dros y Pysgod’ yw menter unigol cyntaf Dafydd Owain sydd wedi bod yn rhan o fandiau megis Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco.

Wrth drafod yr albwm mewn cyfweliad ar wefan Y Selar, disgrifiodd yr albwm fel “dro chwerw-felys mewn i fyd dychmygol go iawn.

“Dydi o ddim yn albwm cysyniadol yn yr ystyr fod stori a naratif i’w dilyn drwyddi ond mae’na ‘gysyniad’ neu o bosib cyd-destun go fwriadol i’r holl beth. Dw i’n meddwl fod y trac-deitl ‘Uwch Dros y Pysgod’ yn symio fyny’r cysyniad sydd gen i yn fy mhen yn reit dda. Mae hi’n gân bop ysgafn, ‘perffaith’ a diniwed ond mae’r geiriau’n fwriadol tynnu’n groes i deimlad hynci-dori’r gerddoriaeth – mae’r penillion yn sôn am dor-calon ymysg themâu dipyn fwy tywyll na hynny. Felly dw i’n meddwl mai’r union gyfochriad (juxtapositon) yma ydi ‘cysyniad’ yr albwm,” dywedodd.

Yn ei adolygiad o’r albwm yn rhifyn Haf 2023 Y Selar, ysgrifennodd Gruffudd ab Owain, “I mi, dyma enghraifft berffaith o werth albwm: cyfanwaith ystyrlon y dylid gwrando arno o’i ddechrau i’w ddiwedd i ymgolli’n y synau breuddwydiol hynny ac i ddianc. Mewn byd sy’n symud gan milltir yr awr, mae’n braf cael ymgolli ym mywydau a phroblemau byrhoedlog trigolion Uwch Dros y Pysgod.”

Gwrando

orcd.co/uwchdrosypysgodalbum