
Solas – Talulah
Yn dilyn rhyddhau ‘Galaru’, ‘Slofi’ a ‘Byth yn Blino’, mae Recordiau I KA CHING yn falch o gyhoeddi bydd EP cyntaf Talulah, ‘Solas’, allan ddydd Gwener 20fed o Fedi.
Mae’r prosiect yn cyfuno synau a chanu meddal ac etheraidd gyda gweadau o jazz a percussion. Yr hyn sydd wrth wraidd ‘Solas’ yw myfyrdodau Talulah ar berthnasoedd pŵer, yn ogystal â’r ymgais fyd eang i adfywio ieithoedd lleiafrifol. Mae Talulah yn gwneud hynny trwy chwarae rhwng cysyniadau o olau a thywyllwch, yn eiriol ac yn gerddorol.
“Dw i wrth fy modd yn chwarae ‘fo harmonïau glittery a’u cyd-osod ‘fo geiriau sy’n trafod perthnasau, queerness a thyfu’n gyffredinol,” eglura Talulah. ‘Gad i mi grio’ ydi’r darn pwysicaf i fi ar yr EP. Mae’n trafod rhywun sydd eisiau rhoi eu oll i rywun arall, er nad ydi o’n teimlo’n dda nac yn iach. Mi gyfansoddes i hon ar y piano, cyn i mi hyd yn oed roi lle i fi fy hun brosesu fy mhrofiadau personol.”
Cyfansoddwyd holl gerddoriaeth a geiriau’r EP gan Talulah, cafodd ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Llŷr Pari a’i mastro gan Iwan Morgan.