
Ymarfer Byw – Dafydd Owain
Mae I Ka Ching yn falch o gyhoeddi y bydd y cerddor Dafydd Owain yn rhyddhau ei ail albwm solo, ‘Ymarfer Byw’, ddydd Mercher, 8fed Hydref.
Yn dilyn llwyddiant ei albwm gyntaf, albwm lled-gysyniadol o dan y teitl ‘Uwch Dros y Pysgod’ a gafodd ei henwebu ar gyfer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae ‘Ymarfer Byw’ yn crisialu brand y cerddor o gerddoriaeth fyfyriol, agosatoch, dwys a dewr.
Y llinyn cyson trwy ‘Ymarfer Byw’ yw’r ymgais greadigol i fynegi rhai o brofiadau dwysaf bywyd. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae Dafydd yn gallu cynnig hyn i ni trwy ddefnyddio ieithwedd a chyflwyniad cerddorol syml ond ingol. Ceir yma gyfres o ganeuon sy’n dilyn Dafydd yn ymbalfalu â nifer o brofiadau aml-haenog yn ei ffordd onest, ysgytwol ac unigryw ei hun.
Dros y misoedd diwethaf, mae Dafydd wedi rhyddhau dwy sengl o’r albwm, sef ‘Leo’ a ‘Cawl’, gan dderbyn ymateb cwbl ffrwydrol. Bydd Dafydd yn lansio’r albwm mewn dau berfformiad ym mhegynau Cymru; un yn Galeri Caernarfon ar yr 11eg o Hydref a’r ail yn Eglwys St Johns, Canton, Caerdydd ar yr 28ain o Dachwedd.