
Hud – Huw M
Mae label recordiau I Ka Ching yn falch iawn o gyhoeddi ail sengl gan Huw M eleni sef ‘Hud’ a rhyddheir 24ain o Hydref 2025.
Mae hi’n hyfryd gweld yr artist gwerinol-finimalistaidd Huw M yn ei ôl gyda’i ail sengl eleni, sef ‘Hud’. Mae ‘Hud’ yn dilyn ‘Cacwn Bwm’ a gafodd dderbyniad gwresog a’i gwneud yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru, a hynny wedi deng mlynedd o dawelwch cerddorol gan Huw.
Mae ‘Hud’ yn gân lawen, egnïol arall, yn llawn harmonïau, riffs gitarau jangli a bachog, a dos go dda o organ Hammond… megis haf bach Mihangel!
Meddai Huw; “Mae’r geiriau’n sôn am y syniad fod gan bawb ryw fath o hud a lledrith tu fewn iddyn nhw, dim ond i ni ddarganfod beth ydy’r hud hwnnw. Dwi’n meddwl mai Dolly Parton ddwedodd “find out who you are, then do it on purpose”, a dyna syniad y gân – fod gan bawb rhywbeth arbennig ac unigryw i gynnig, ac mae ’na le yn y byd i bawb a’i hud!”
Ar y trac, mae Bethan Mai (o Rogue Jones) yn canu, Lucy Goldbridge yn canu a chwarae’r soddgrwth ac Iolo Whelan yn drymio a chwarae’r offerynnau taro. Huw sy’n chwarae gweddill yr offerynnau, gan gynnwys yr organ Hammond, sy’n chwarae rhan ganolog ar y caneuon newydd. Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Tŷ Drwg, dan ofal y cynhyrchydd amryddawn Frank Naughton.
Bydd rhagor o senglau’n cael eu rhyddhau’n fuan, ac albwm newydd sbon yn 2026.