
Albwm Gyntaf Blodau Papur
Rhyddheir albwm gyntaf Blodau Papur, sy’n dwyn yr un enw a’r band, ar label I Ka Ching 02/09/2019.
GWRANDO YMA
Dechreuodd Blodau Papur y flwyddyn 2019 gyda bang trwy ryddhau nid un, ond dwy sengl, sef yr eneidiol ‘Llygad Ebrill’ a’r pruddglwyfus ‘Tyrd Ata I’. Yn dilyn hynny, rhyddhawyd ‘Yma’ – cân yn dwyn ysbrydoliaeth o ganeuon tawelach Fleetwood Mac, ac yn dangos ochr ysgafnach, feddalach i gerddoriaeth y band.
Wedi bron blwyddyn a hanner o gigio ledled Cymru, gan gynnwys chwarae yng Ngig y Pafiliwn gyda cherddorfa’r Welsh Pops yn Eisteddfod Genedlaethol 2017 a chwarae gyda cherddorfa’r BBC ddiwedd 2018, mae albwm Blodau Papur yn barod.
Dyma gasgliad o ganeuon newydd sbon, y senglau a rhai caneuon y byddwch yn eu hadnabod o’r setiau byw; oll yn plethu i greu cyfanwaith sy’n eich codi i’r uchelfannau swnllyd, cyn tynnu yn ôl i gledr llaw’r eiliadau ingol. Mae’r band yn mwynhau arbrofi gyda gwahanol arddulliau gan symud yn rhwydd o’r ffync i ganu’r felan, i ganu’n ddigyfeiliant llwyr.
Recordiwyd yr albwm yn fyw yn stiwdio Drwm er mwyn dal egni a pherthynas y band hwn gyda’i gilydd. Blodau Papur yw llais Alys Williams, wedi ei lapio gan sŵn band go adnabyddus – Osian Huw (Candelas/Siddi), Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog/Plu/Colorama), Dafydd Huws (Cowbois Rhos Botwnnog/Plu/Gwenno) a Branwen Haf (Cowbois Rhos Botwnnog/Siddi/Candelas).
Gigs
8/6/19 Gŵyl Cefni
22/6/19 Tafwyl
5+10/8/19 Eisteddfod Genedlaethol Conwy
+Manylion taith yn yr Hydref i ddod yn fuan
