
Sigaret – Dienw
Mae label recordiau I KA CHING yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y band newydd sbon Dienw yn ymuno â’r label ac yn rhyddau y sengl ‘Sigaret’ ar 18fed o Hydref 2019.
GWRANDO YMA!
Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drums) yw Dienw, sy’n disgrifio eu hunain fel “band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a psychedelic”. Bu iddynt ffurfio nôl yn 2017 a cawsant sesiwn ar raglen Huw Stephens, Radio Cymru yn 2018. Mae enw’r band yn deyrnged i un o ganeuon y band hoffus Eitha Tal Ffranco – pam ddim!
Mae’r band yn credu fod eu caneuon yn llawer mwy o dafod mewn boch na lot o bethau eraill yn y sîn ar hyn o bryd.
Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Drwm gyda Ifan ac Osian Candelas, fel rhan o sesiwn. Twm hefyd sy’n gyfrifol am y gwaith celf sydd wedi ei greu gyda inc marblo ac yn defnyddio blerwch y lliwiau i efelychu blerwch noson allan.
