
Ffilm – Dienw
Mae label recordiau Ikaching yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y band newydd sbon Dienw yn rhyddhau eu trydydd sengl, ‘Ffilm’, ar 24.01.20.
GWRANDO YMA!
Recordiwyd ‘Ffilm’ dros gyfnod Calan Gaeaf 2019 yn Stiwdio Ferlas gyda Rich Roberts. Mae geiriau’r gân yn gymysgedd o odlau ddaru Twm ysgrifennu dros fisoedd, sy’n seiliedig ar gymeriadau o wahanol ffilmiau – felly’n amlwg, o’r fan honno y daeth yr enw ‘Ffilm’!
Unwaith eto, crewyd y gwaith celf gan brif leisydd y band – Twm, ac mae’r band yn gweithio ar fideo i gydfynd â’r sengl a fydd allan ddechrau Chwefror.
Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drums) yw Dienw, sy’n disgrifio eu hunain fel “band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a psychedelic”. Mae eu dwy sengl ‘Sigaret’ a ‘Bwystfil Prydferth’ ar gael rwan ar y platfformau digidol.
