
Breuddwyd Brau – Melda Lois
Mae’n bleser gan Recordiau I KA CHING rhyddhau trydedd sengl Melda Lois –‘Breuddwyd Brau’ – ar y 5ed o Ebrill, 2024.
Mae ‘Bonne Nuit Ma Chérie’ a ‘Tofino’eisoes wedi eu rhyddhau, ac yn rhagflas godidog o’r EP fydd yn cael ei ryddhau ar y 3ydd o Fai ar Bandcamp yn unig i ddechrau. Mae’n hyfryd gallu cyflwyno sengl nesaf Lois, sy’n cyfuno ei dylanwadau creadigol ond hefyd y rhai gwyddonol sy’n dod o fod wedi astudio seicoleg am sawl blwyddyn.
“Ma’ ‘Breuddwyd Brau’ am alar, hiraeth a’r cof.Ma’r syniad bod pobl yn dal yn fyw yn y cof yn un sy’n rhoi lot o gysurwrth alaru. Ond eto, ma’ atgofion yn bethau mor fregus, sy’n agored iawn i gael eu newid bob tro ‘da ni’n ail-ymweld â nhw. Ma’ gwirionedd atgofion felly’n breuo wrth i ni dreulio mwy o amser hefo nhw. Dwi’n ffeindio’n hun yn sbio nôl a’n hiraethu am atgofion melys hefo’r bobl dwi wedi eu colli yn aml. Ar un llaw, ma’r gân yn cyfleu y cysur sy’n dod o wneud hynny, a’r teimlad o fod yn ddiolchgar o allu teimlo’n agos at y bobl sydd ddim hefo ni bellach. Ond ar y llaw arall, ma’r gân yn cydnabod natur brau ein hatgofion ni, a sut ma’r cysur hynny yn aml yn dod o atgofion sy’ falle ddim cweit yn cyfleu y gorffennol yn union fel oedd o”.
Mae Lois wedi dewis arddangos gwaith cwilt Mirain Alaw Jones, neu Medr Mir, unwaith eto ar gyfer clawr y sengl. “Golygfa o’r Aran Benllyn o Lyn Tegid sy’ wedi ei gwiltio tu ôl i fi ar y clawr. Ma’ bod adre bob tro’n fy ngwneud i’n fwy hiraethus am y gorffennol. Mi oedd defnyddio golygfa sy’n gysylltiedig iawn hefo ‘adre’ i fi, ond mewn ffordd haenog sy’n gwneud y ffiniau’n fwy angelur, yn teimlo fel ffordd dda o gyfleu y syniad tu ôl i’r gân”.
Magwyd Lois yng Nghwm Croes ger Llanuwchllyn, ac mae wedi creu dipyn o enw iddi ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth gigio’n gyson ar hyd a lled y wlad. Daeth i amlygrwydd wedi i ddwy o’i chaneuon gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân I Gymru, 2021. Llynedd, roedd yn un o artistiaid Cronfa Lansio BBC Gorwelion yn 2023, bu ar restr fer artist Newydd Gwobrau’r Selar, ac aeth ymysg y pedwar olaf ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Lois hefyd wrth ei bodd yn cyd-weithio, ac mae wedi cyfrannu at ambell ran o Brosiect Kathod, ac at Brosiect Sbardun.
Gwrando: orcd.co/breuddwydbrau