Symbiosis – Melda Lois
Mae’n bleser gan Recordiau I KA CHING ryddhau EP cyntaf Melda Lois –Symbiosis. Bydd yr EP ar gael ar Bandcamp yn unig ar Fai 3ydd ac yna ar y platfformau ffrydio arferol ar y 7fed o Fehefin.Symbiosis yw enw’r gân olaf ar yr EP. Ar y wyneb, mae hi’n gân syml am botsian yn yr ardd a gofalu am y planhigion yn y tŷ, ond mae hi’n gorffen hefo neges fwy dwys sy’n pwysleisio pwysigrwydd gofalu amdanom ein hunain.
“Roedd Symbiosis yn teimlo fel teitl addas i’r EP”, meddai Lois, “achos mae o’n gysyniad sy’ wedi ei wreiddio yn y ffordd mae pethau yn cyd-berthyn. Ar draws yr holl ganeuon ar yr EP, mae’r geiriau yn trafod gwahanol fathau o berthnasau –rhai sy’n bersonol i fi e.e. fy mherthynas i hefo fy hun, fy mherthynas hefo’r bobl o nghwmpas i; ond rhai sy’n gyffredin i bawb hefyd e.e. perthnasau hefo natur a’r ffordd mae o’n dylanwadu ar ein teimladau ni.”
“Ma’ gennai berthynas symbiotig iawn hefo adre! Ma’ bod nôl ar y fferm lle ges i fy magu, yngnghanol byd natur, yn rhoi egni newydd i fi bob tro. Dwi’n meddwl bod cael fy magu lle ges i yn bendant wedi dylanwadu ar y ffordd dwi’n sgwennu, yn enwedig y ffordd dwi’n tueddu i ddefnyddio delweddau o natur i gyfleu teimladau ayyb. Llun o’r llyn uwchben y fferm, Llyn Llymbren, a chrib yr Aran Benllyn sydd wedi ei daflunio arna’i yn y llun ar y clawr.”
“Mae adre yn rhan fawr iawn o bwy ydw i, ac mae o’n teimlo’n addas cael delwedd reit bersonol i gyd-fynd hefo casgliad o ganeuon sydd reit onest a phersonol hefyd. Am resymau tebyg, dwi hefyd wrth fy modd bod yr EP yn cael ei rhyddhau i’r byd dan ofal criw I KA CHING, sy’n teimlo fel adre diolch i’r holl gysylltiadau hefo ardal Llanuwchllyn.”
“Dim ond yn ddiweddar iawn dwi wedi teimlo digon cyfforddus ynrhannu fy nghaneuon. Dwi wastad di bod yn uffernol o swil, sydd ddim yn help. Ond dwi’n meddwl mai’r rhwystr mwyaf oedd fy mherthynas i hefo fy hun. Dwi ‘di bod yn sgwennu ers blynyddoedd, ond dim ond ers dod allan a dod i ddallt pwy ydw i mae’r caneuon dwi’n eu sgwennu yn teimlo’n ‘iawn’, a digon onest i fi fod yn gyfforddus yn eu rhannu nhw.”
“Y gân hynaf ar yr EP ydy Siarad yn fy Nghwsg –nes i sgwennu honno nôl yn 2016. O’n i yn ei chanol hi yn stryglo i ddeall fy hunaniaeth, ac wrth sbïo nôl, mi o’n i mewn lle reit dywyll a’n eithaf ofnus o golli’r bobl o nghwmpas i. Fyswn i wedi chwerthin yn eich wynebe chi os fyse chi wedi dweud wrtha’i ar y pryd y byse hon 1) yn cael ei chlywed gan unrhyw un ‘blaw fi, a 2) yn cael ei rhyddhau ar EP ochr yn ochr â chaneuon am fy mhrofiadau i o gariad cwiyr. Mi oedd gwneud rhywbeth hefo niddordeb i mewn cerddoriaeth, a gwneud rhywbeth am y teimladau o’n i wedi bod yn eu cuddio yn ddau beth oedd yn teimlo reit amhosib ar y pryd. O ystyried hynny, dwi reit falch o’r EP ‘ma.”
Gwrando
https://orcd.co/symbiosis