• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Solas – Talulah

8 Hydref 2024 | Newyddion

Yn dilyn rhyddhau ‘Galaru’, ‘Slofi’ a ‘Byth yn Blino’, mae Recordiau I KA CHING yn falch o gyhoeddi bydd EP cyntaf Talulah, ‘Solas’, allan ddydd Gwener 20fed o Fedi.

Mae’r prosiect yn cyfuno synau a chanu meddal ac etheraidd gyda gweadau o jazz a percussion. Yr hyn sydd wrth wraidd ‘Solas’ yw myfyrdodau Talulah ar berthnasoedd pŵer, yn ogystal â’r ymgais fyd eang i adfywio ieithoedd lleiafrifol. Mae Talulah yn gwneud hynny trwy chwarae rhwng cysyniadau o olau a thywyllwch, yn eiriol ac yn gerddorol.

“Dw i wrth fy modd yn chwarae ‘fo harmonïau glittery a’u cyd-osod ‘fo geiriau sy’n trafod perthnasau, queerness a thyfu’n gyffredinol,” eglura Talulah. ‘Gad i mi grio’ ydi’r darn pwysicaf i fi ar yr EP. Mae’n trafod rhywun sydd eisiau rhoi eu oll i rywun arall, er nad ydi o’n teimlo’n dda nac yn iach. Mi gyfansoddes i hon ar y piano, cyn i mi hyd yn oed roi lle i fi fy hun brosesu fy mhrofiadau personol.”

Cyfansoddwyd holl gerddoriaeth a geiriau’r EP gan Talulah, cafodd ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Llŷr Pari a’i mastro gan Iwan Morgan.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Melda Lois

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
    • Hud – Huw M
      15 Hydref 2025+
    • Ymarfer Byw – Dafydd Owain
      6 Hydref 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu