
Uwch Dros y Pysgod – Dafydd Owain
Mae label recordiau I Ka Ching yn falch o gyhoeddi mai eu cynnyrch cyntaf ar gyfer 2023 yw ‘Uwch Dros y Pysgod’ gan Dafydd Owain a ryddheir Ionawr 27ain, 2023. Caiff y sengl ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Georgia Ruth, BBC Radio Cymru ar yr 17eg o Ionawr.
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o senglau fydd yn cael ei ryddhau yn arwain at gyhoeddi albwm o dan yr un enw yn hwyrach yn y flwyddyn. ‘Uwch Dros y Pysgod’ yw menter unigol cyntaf Dafydd Owain sydd wedi bod yn rhan o fandiau megis Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco.
“Cân lled-hunan-bortreadol yw ‘Uwch Dros y Pysgod’ sy’n taro golwg ar fodlonrwydd diniwed plentyndod gyfochr â melancoli dryslyd bod yn oedolyn”, dywed Dafydd. “Mae hi’n gân sy’n seiliedig ar bentref dychmygol dan yr un enw—pentref tebyg iawn i’r pentrefi ar raglenni megis Joshua Jones neu Sam Tân. Roeddwn yn arfer gwylio rhaglenni o’r fath yn ddeddfol pan yn blentyn ac yn cymryd cysur o’u straeon fformiwläig. Do’dd na’m ots pa mor enfawr oedd y broblem, roedd popeth wedi ei ddatrys ac yn ôl i normalerbyn diwedd y bennod deng munud.
Doedd y rhaglenni ’ma’n fawr o baratoad i fod yn oedolyn.”
Recriwtiwyd cerddorion adnabyddus i berfformio law yn llaw â Dafydd ar ‘Uwch Dros y Pysgod’ gan gynnwys Osian Williams (Candelas, Blodau Papur), Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Gethin Griffiths (Ciwb, Elis Derby) ac Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis & Rio 18).Cynhyrchwyd y sengl gan LlŷrPari (Melin Melyn, Bitw, Omaloma, Serol Serol). I gyd-fynd â’r sengl, rhyddheir fideo ar gyfer Lŵp (S4C) ar y 24ain o Ionawr. Cyfarwyddwyd y fideo gan Dafydd Huws (Amcan) sy’n cynnwys model o bentref Uwch Dros y Pysgod a grëwyd gan Cai ac Efa Dyfan.
Dyddiad rhyddhau: 27 Ionawr 2023
Enw trac: Uwch Dros y Pysgod
Artist: Dafydd Owain
Hyd trac: 4:08
Label: I Ka Ching
Cyswllt artist: Dafydd Owain —dafowain@gmail.com/ 0778919224