
Leo – Dafydd Owain
Dafydd Owain yn cyhoeddi ei sengl gyntaf oddi ar ei albwm newydd ar Awst 15.
Mae label recordiau I Ka Ching yn falch o gyhoeddi sengl newydd sbon gan yr artist, Dafydd Owain. ‘Leo’ yw teitl y sengl dan sylw a dyma’r gân gyntaf iddo ei rhyddhau o’i gasgliad diweddaraf o ganeuon sy’n bodoli o dan y teitl ‘Ymarfer Byw’.
Dyma’r sengl gyntaf i Dafydd ei rhyddhau ers iddo gyhoeddi ei gasgliad cyntaf o ganeuon solo dan y teitl ‘Uwch Dros y Pysgod’ — casgliad a enwebwyd am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ogystal â gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn.
Bellach mae Dafydd yn barod i gyflwyno ei ail albwm, sydd ar drywydd tywyllach na’r cynta’. “Cam tuag at ddrws nas agorwyd oedd yr albwm cynta, wedi meddwl…” meddai Dafydd. “Dw i’n meddwl fod yr ail albwm yma’n gam bwriadol dros adwy’r drws yna.”
Mae llu o gerddorion amryddawn yn ymuno â Dafydd ar ei sengl gyntaf, gan gynnwys: Aled Huws, Osian Huw Williams, Gethin Griffiths, Harri Owain, Dafydd Williams, Mari Morgan, Dáire Roberts a Rhodri Brooks. Ar lyw’r peiriannu, cynhyrchu a chyfeiriad creadigol mae’r amryddawn, Llŷr Parri (Gwenno, Melin Melyn).