Sŵnami

Heb os, yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, arwyddodd Sŵnami â label Ikaching yn 2014, gan ryddhau dwy sengl yn syth – CynnyddGwenwyn.

Cafwyd yma addewid o’r hyn oedd i ddod ar ‘Sŵnami’ – albwm yn dwyn yr un enw â’r band a ryddhawyd yn 2015. Albwm llawn pop gafaelgar, bachog wedi’i adeiladu’n grefftus o haenau o synau anferth.

Wedi llafurio am flwyddyn ar yr albwm, llwyddwyd i greu campwaith o synth-pop uniongyrchol. Pop sydd efallai’n fwy personol nag o’r blaen, meddai’r band, ac yn llai amwys. Clywsom ragflas o’r sŵn ar y trac ‘Magnet’ a chwaraewyd yn syth ar Radio 1 pan oedd Sŵnami ar eu ffordd i Groningen i gynrychioli’r stesion radio yng Ngŵyl Eurosonic, 2014 (gwyliwch fideo yma).

Mynd yn ôl at Rich Roberts i Stiwdio Ferlas wnaeth yr hogiau, gan fentro cyd-gynhyrchu y tro hwn. Gwelwyd Gruff Jones (synth) yn cyd-gyfansoddi gydag Ifan Davies (llais a gitâr) ac Ifan Ywain (gitâr), gan weu ei ddylanwadau synth-aidd i’r gymysgedd. Er ei fod yn Awstralia, rhaid oedd gwneud yn siŵr fod un o aelodau gwreiddiol y band, Huw Ynyr, yn rhan o ‘Sŵnami’. Llwyddwyd i recordio ei lais mewn stiwdio yno, er mwyn cyfrannu at leisiau cefndirol yr albwm.

Profodd y band sawl uchafbwynt yn  2015 gan gynnwys recordio sesiwn ym Maida Vale a pherfformio yng Ngŵyl Rhif 6.

Yn 2016, Sŵnami oedd ar frig y bleidlais gyhoeddus yng Ngwobrau’r Selar mewn pedwar o’r deuddeg categori, gan gipio’r gwobrau am ‘Gân Orau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Gwaith Celf Gorau’ a’r ‘Band Gorau’.

Rhyddhaodd Sŵnami y gân ‘Breuddwyd Brau’ ar y casgliad i ddathlu pen-blwydd I KA CHING yn 5 oed, sef ‘V’.

Rhagor…
Spotify Sŵnami
Soundcloud Sŵnami
Fideo Gwenwyn
Sianel YouTube Sŵnami

Cysylltu…
Facebook: facebook.com/swnami
Twitter: @swnami_
E-bost: swnami@hotmail.co.uk

Cynnyrch