• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Albwm Hir Ddisgwyliedig Sŵnami

6 Mehefin 2015 | Newyddion

Bydd Sŵnami yn rhyddhau eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig, ar y 3ydd o Awst 2015 ar label Ikaching. Cawsom addewid o’r cynnwys gyda’r senglau Cynnydd a Gwenwyn, ac o’r diwedd mae albwm sy’n dwyn yr un enw a’r band, yma i siglo’r haf. Pop gafaelgar, bachog wedi’i adeiladu’n grefftus o haenau o synau anferth.

Wedi llafurio am flwyddyn ar ‘Sŵnami’, ceir yma albwm o synth-pop uniongyrchol. Pop sydd efallai’n fwy personol nag o’r blaen, meddai’r band, ond eto’n llai amwys. Clywsom ragflas o’r sŵn ar y trac ‘Magnet’ a chwaraewyd yn syth ar Radio 1 pan oedd Sŵnami ar eu ffordd i Groningen i gynrychioli’r stesion radio yng Ngŵyl Eurosonic.

Mynd yn ôl at Rich Roberts i Stiwdio Ferlas wnaeth yr hogiau, ond gan fentro cyd-gynhyrchu y tro hwn. Gwelwyd Gruff Jones (synth) yn cyd-gyfansoddi gydag Ifan Davies (llais a gitâr) ac Ifan Ywain (gitâr), gan weu ei ddylanwadau synth-aidd i’r gymysgedd. Er ei fod yn Awstralia, rhaid oedd gwneud yn siŵr fod un o aelodau gwreiddiol y band, Huw Ynyr, yn rhan o ‘Sŵnami’. Llwyddwyd i recordio ei lais mewn stiwdio yno, er mwyn cyfrannu at leisiau cefndirol yr albwm.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Sonant

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Fuo Chi? – Blodau Papur
      14 Mai 2026+
    • Sonant – Sonant
      12 Mai 2026+
    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu