• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • News
  • Artists
  • Shop
  • Gigs
  • Contact
  •  
  • More……Less
Menu

Esgidiau Newydd – Ailgymysgiad o un o ganeuon Yr Eira

26 January 2021 | Newyddion
Mae Yr Eira yn eu holau gydag ailgymysgiad o un o’u caneuon diweddaraf; ‘Esgidiau Newydd’. Y cynhyrchydd Frank Naughton (Jarman/Casi/Ynys) sydd wedi ail-ddiffinio’r gân ac fe’i rhyddheir ar label recordiau I KA CHING 20/11/20.

Mae Naughton wedi dewis trywydd dawns i’r ailgymysgiad, gan chwarae gydag ambell elfen o’r gân wreiddiol yn unig; y llinell “llusgo, llusgo, er fy mod i’n gwisgo, gwisgo”, y llinell fas a’r middle 8. Mae hyn yn tynnu’n sylw fwyfwy at thema’r gân fod esgidiau newydd yn ryw fath o symbol o’r daith y mae rhywun yn ei ddilyn trwy fywyd. Ni’n hunain sydd yn creu ein ffawd a’n llwybr, er bod y llwybr hwnnw’n gallu bod yn un digon unig ar brydiau.

Ymddangosodd ‘Esgidiau Newydd’ ar albwm diweddaraf Yr Eira, ‘Map Meddwl’.

  • Music

  • Featured artist

    Kathod

    +
  • Featured merchandise

    Y DrefnMared

    +
  • News

    • Fuo Chi? – Blodau Papur
      14 May 2026+
    • Sonant – Sonant
      12 May 2026+
    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 November 2025+
  • © I KA Ching 2026
    • My account
    • Contact