Description
Daw teitl albwm cyntaf Mynadd – Dio Mor Hawdd â Hynny – o eiriau’r gân ‘Llwybrau’, y sengl gyntaf ryddhawyd gan Mynadd ’nôl yn Hydref 2023, ac mae’n rhyw awgrym o’r benbleth a’r newydd-deb ddaw wrth ddod i oed. Dyma’r edefyn thematig sy’n gwau albwm cyntaf y band at ei gilydd; cyfansoddwyd y caneuon dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner lle bu’r aelodau’n cyrraedd y chweched dosbarth, mynd i’r brifysgol, byw dramor a mentro i’r byd gwaith am y tro cyntaf.
Er simsanu ar y cwestiwn o genre i’w cerddoriaeth hyd yn hyn, does dim amau fod albwm cyntaf y band yn albwm bop, ond yn dal i ddwyn elfennau jazz-aidd, funk-aidd, soul-aidd yn rhai o’r caneuon, tra bo eraill, fel ‘Tra Môr yn Fur’ ac ‘Y Newid’, yn fwy atmosfferig, neu ‘epig’ hyd yn oed.
Er y gellid pwyntio at ddylanwadau cerddorol o bob math ac o bob cyfeiriad, y dylanwad creiddiol ar albwm cyntaf Mynadd yw cerddorion a grwpiau o Benllyn a ddaeth o’u blaenau; – Candelas, Y Cledrau, a Blodau Papur.
Mae’r clawr, wedi ei gysodi gan Dyfan Williams, yn arddangosfa weledol o glytwaith cerddorol yr albwm.
1 Awn Ni?
2 Adra
3 Fel’na ma’i
4 Dylanwad
5 Sbot On
6 Llwybrau
7 Nefoedd ar y Ddaear
8 At Dy Goed
9 Tra Môr yn Fur
10 Y Newid