
Sonant – Sonant
Rhyddheir albwm gyntaf Sonant, sy’n dwyn yr un enw â’r ddeuawd ar label recordiau I KA CHING ar 15/5/26.
Cerddoriaeth finimalaidd, heddychol a phur – dyma fawredd albwm gyntaf y ddeuawd biano – Sonant, sef cywaith dwy o gerddorion mwyaf sefydledig Cymru; Siân James a Sioned Webb. Mae’r cyfansoddiadau’n gymysgedd o ddarnau cwbl wreiddiol, a darnau sy’n tynnu o alawon gwerin a chlasurol. Daw ambell i enw adnabyddus fel y band Vrï, Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) a meibion Siân, Mabon a Llywelyn, hefyd i gyfrannu at sain yr albwm, ond yn ei hanfod, asiad anhygoel sain dau biano yw Sonant.
Wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd ar y piano o dan 12, ac yna astudio o dan yr Athro William Mathias yn Adran Gerddoriaeth Bangor, mae hi bron yn teimlo mai ffawd sy’n gyfrifol am lwybr nesaf Siân a Sioned a’u bod bellach yn cyd-chwarae ac ar fin rhyddhau eu halbwm gyntaf gyda’i gilydd. Cafwyd eisoes flas o sain obeithiol a disglair yr albwm gyda’r senglau ‘Clychau’ a ‘Pauperem’, ac mae’r traciau oll yn cynnig balm i’r enaid a cherddoriaeth sy’n llesol i bob ysbryd.
Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio Sain gydag Aled Hughes yn peiriannu a chyd-gynhyrchu. Tynnwyd holl luniau’r albwm gan Mefus Photography a chysodwyd gan Dyfan Williams.