
Cawl Llonydd – Carcharorion
9 Hydref 2026 | Newyddion
Mae ‘Cawl Llonydd’ gan Carcharorion yn brosiect o ailffurfio caneuon gan Dafydd Owain (Cawl) a Nia Morgan (Llonydd). Wedi seibiant hir, mae Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard yn eu holau `dan yr enw Carcharorion, ac yn bwrw golwg wahanol ar ganeuon eu ffrindiau a’u hoff artistiaid trwy eu haddasu i draciau dawns dyfn. Roedd ystyr ddwys y geiriau yn ddylanwad mawr ar y ddau, a rhoddwyd pwyslais ar barchu’r ystyr hwnnw wrth gyfansoddi’r gerddoriaeth, ond gan edrych arnynt drwy eu lens eu hunain.