
I KA CHING – 5
Mae label recordiau I KA CHING yn dathlu ei ben-blwydd yn bum mlwydd oed. A pha ben-blwydd sy’n gyflawn heb anrheg neu barti?
Tros y misoedd diwethaf mae pob artist sydd wedi rhyddhau cynnyrch gydag I KA CHING wedi recordio cân newydd sbon neu ailgymysgiad ar gyfer casgliad go arbennig. Bydd yr 16 cân yn serennu ar record ddwbl fendigedig a gallwch ei phrynu ddydd Gwener 22ain o Orffennaf 2016.
Dyma’r rhestr o artistiaid sydd wedi bod yn rhan o deulu cynhyrchiol y label ac sy’n cyfrannu at y casgliad unigryw ac eclectig hwn: Jen Jeniro, Texas Radio Band, Sen Segur, Violas, Siddi, Clwb Cariadon, Yr Eira, Y Reu, Candelas, Sŵnami, Ysgol Sul, Palenco, Y Cledrau, Yr Ods, Huw M a Cpt.Smith.
Diwrnod ar ôl rhyddhau’r record, bydd I KA CHING ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn cynnal gig mawr i ddathlu’r pen-blwydd. Diwrnod di-dor o gerddoriaeth gan sawl un o fandiau’r label, gan gychwyn am 3yh yng Nghanolfan Pontio, Bangor. Yn perfformio bydd Candelas, Sŵnami, Yr Ods, Yr Eira, Palenco, Ysgol Sul, Carcharorion, Y Cledrau, Cpt. Smith, a Siddi.
Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu rŵan o pontio.co.uk neu trwy ffonio Pontio ar 01248 382828. Maent yn £12 o flaen llaw neu’n £15 ar y drws.
Dewch i ddathlu, troelli a tharo’r llawr dawnsio.
Ymlaen i’r 5 nesaf!
