Blodau Papur

Gyda Branwen Haf Williams (Cowbois Rhos Botwnog, Siddi) ar yr allweddellau, Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnog, Georgia Ruth) ar y gitar fâs, y gitarydd Osian Huw Williams (Candelas, Palenco, Siddi), Gwion Llewelyn (Villagers, Racehorses) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn rhannu’r awenau ar y drymiau, mae’n anodd peidio cyffroi wrth glywed am Blodau Papur. Dyma’r enw a roddir i’r criw o gerddorion profiadol yma, sydd yn chwarae cyfuniad o felanganu ffwnclyd a seicedelia tu ôl i lais cyfareddol Alys Williams.

Ers ffurfio yn 2017, maent wedi hudo cynulleidfaoedd hyd y wlad, gan gynnwys cyd-chwarae gyda cerddorfa’r BBC yn 2018, a llenwi neuaddau wrth i’r gair ledu am nosweithiau arbennig yn eu cwmni.

Rhyddhawyd dwy sengl ar ddechrau 2019; ‘Tyrd Ata I’, sy’n sôn am ddau yn ceisio llywio perthynas fregus, a ‘Llygad Ebrill’ sy’n trafod sut y gall amseroedd caled arwain at ffrindiau’n nesu.

Yn mis Mai 2019, rhyddhawyd ‘Yma’ – cân sy’n trafod unigolion na fedr weld fod ganddyn nhw bopeth o dan eu trwynau, a sy’n gyson chwilio am y man gwyn man draw.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf sy’n rhannu’r enw a’r band ar ddechrau haf 2019.

Roedd ‘Morfydd‘ ar yr albwm aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Rhagor…

Cysylltu…

Rheolwr / Manager:
Branwen Haf Williams – branwenhaf@hotmail.com

Cynnyrch