
Dŵr – Blodau Papur
BLODAU PAPUR YN DYCHWELYD GYDA SENGL NEWYDD SBON
Rhyddheir sengl newydd Blodau Papur, ‘Dŵr’, ar label recordiau I KA CHING ar 14eg o Fawrth 2025.
Wedi cyfnod o seibiant, mae Blodau Papur yn eu holau gyda chynnyrch newydd sbon. ‘Dŵr’ yw sengl gyntaf y band ers rhyddhau ‘Morfydd’ yn 2022 ar gasgliad amlgyfranog eu label, I KA CHING, a chyn hynny, eu halbwm yn 2019.
Er bod albwm cyntaf ‘Blodau Papur’ yn gwyro at sŵn ffync a’r felan, mae ‘Dŵr’ heb os yn dwyn dylanwad gan bopeth o gyfnod di-boen y 90au. O’r llinell bas, y gitâr llawn gyriant, i lwybr melodi llais Alys Williams. Mae hyd yn oed yn trafod yr arfer cyson pan oedd rhai aelodau’r band yn eu harddegau yn trochi yn yr afon hefo’u ffrindiau a pha mor gyffrous oedd cyfnodau gwyliau’r haf erstalwm (ymhell cyn i unrhyw sôn am ‘nofio gwyllt’ stwffio ei hun ‘hyd ein Instagrams).
Gwnaed clawr trawiadol y sengl gan Cat Williams, merch Alys a’r cysodi gan Dafydd Owain. Mae ‘Dŵr’ yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon a bydd allan ar y gwasanaethau ffrydio ddydd Gwener.