Dienw

Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drums) yw Dienw, sy’n disgrifio eu hunain fel “band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a psychedelic”. Bu iddynt ffurfio nôl yn 2017 a cawsant sesiwn ar raglen Huw Stephens, Radio Cymru yn 2018. Mae enw’r band yn deurnged i un o ganeuon y band hoffus Eitha Tal Ffranco – pam ddim!

Rhyddhawyd tair sengl ganddynt yn eu blynyddoedd cynnar – ‘Sigaret‘, ‘Bwystfil Prydferth‘ a ‘Ffilm‘. Roedd ‘Targed‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘, ryddhawyd yn 2022.

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Dienw‘, yn 2023, yn dilyn dwy sengl oddi arni, sef ‘Ffydd’ ac ‘Emma.

Rhagor…

Cysylltu…

Twitter: @dienwband

E-bost: dienwband@gmail.com

Cynnyrch