
Bwystfil Prydferth – Dienw
Mae label recordiau I KA CHING yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y band newydd sbon Dienw yn rhyddhau eu hail sengl ‘Bwystfil Prydferth’ ar 22 Tachwedd 2019.
GWRANDO YMA!
Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drums) yw Dienw, sy’n disgrifio eu hunain fel “band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a psychedelic”. Bu iddynt ffurfio nôl yn 2017 a cawsant sesiwn ar raglen Huw Stephens, Radio Cymru yn 2018, cyn rhyddhau eu sengl gyntaf ‘Sigaret’ fis Hydref 2019. Mae enw’r band yn deyrnged i un o ganeuon y band hoffus Eitha Tal Ffranco – pam ddim!
Mae ‘Bwystfil Prydferth’ yn rhyw fath o gyfeiriad at y ffilm Beauty and the Beast ac yn gân llawer mwy ‘serious’ o’i chymharu â ‘Sigaret’. Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Drwm gyda Ifan ac Osian Candelas. Os gwrandewch yn astud, mae’r adran chwibanu yn dod o diffyg amynedd Twm i chwarae’r riff gitâr wrth ymarfer…! Classy.
