
Cashews Blasus – Y Cledrau
Ar ôl pedair blynedd o aros – rhyddheir “Cashews Blasus”, ail albwm Y Cledrau ar label recordiau I KA CHING ar 2.7.21.
Fe recordiwyd yr albym mewn pytiau drwy gydol 2020-21 yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Dyma albwm sy’n mynd i fwy o eithafion na’r diwethaf – y traciau trymaf yn drymach, a’r ysgafnaf yn ysgafnach. Treuliwyd mwy o amser yn y stiwdio yn arbrofi ac addasu i’r gwahanol fathau o ganeuon – gyda thri trac wedi eu recordio’n fyw am y tro cyntaf.
Mae’r albwm yn cymysgu geiriau gorffwyll llif yr ymwybod â sain galed, riffs cofiadwy ar y gitâr. Mae’n llawn pytiau geiriol ffraeth a’r angst felancolig sydd yn rhemp drwy holl gynnyrch y band.
Rhyddheir fidio ar gyfer trac cynta’r albym, ‘Disgyn Ar Fy Mai’, y gân sydd â’r llinell a roddodd y teitl ‘Cashews Blasus’. Mae’r fidio yn gasgliad o fidios personol y pedwar ac wedi’i olygu gan Rhys Grail – sy’n gofnod o flwyddyn a hanner o anturiaethau gwirion a’r broses o roi syniadau a meddyliau at ei gilydd i greu un cyfanwaith lliwgar, blasus.