Bonne Nuit Ma Chérie – Melda Lois
Mae’n bleser gan Recordiau I KA CHING groesawu’r artist Melda Lois i deulu’r label. Bydd yn rhyddhau ei sengl gyntaf Bonne Nuit Ma Chérie ar yr 8fed o Ragfyr, 2023.
“Cân sy’n rhyw fath o hwiangerdd i rywun sy’n stryglo” yw disgrifiad Lois o’i sengl newydd ‘Bonne Nuit Ma Chérie’, “am drio bod yno iddyn nhw, cario’r baich a helpu nhw gamu o’u meddwl pan mae o’n eu poeni nhw”.
Magwyd Lois yng Nghwm Croes ger Llanuwchllyn, ac mae wedi creu dipyn o enw iddi ei hun dros yr haf wrth gigio’n gyson ar hyd a lled y wlad. Daeth i amlygrwydd wedi i ddwy o’i chaneuon gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru, 2021.
Mae’n un o artistiaid Cronfa Lansio BBC Gorwelion 2023, bu ar restr fer artist newydd Gwobrau’r Selar a daeth ymysg y pedwar olaf ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Lleuwen Steffan oedd un o’r beirniaid ac meddai; “Rwyt ti’n dod drosodd fel introvert ac mae hynny mor hardd ac anarferol ar lwyfannau Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’n swynol”.
Er mai cân gysurus wrth noswylio yw Bonne Nuit Ma Chérie, mae ‘na islif pruddglwyfus yma. Fe’i cyfansoddwyd yn wreiddiol ar y gitâr, ond wrth weithio gyda’r cynhyrchydd Ifan Jones, yn Stiwdio Sain fe ychwanegwyd gwead i’r gân gan efelychu artistiaid megis Villagers a Jack Johnson.