
Llongyfarchiadau Mawr – Dafydd Owain
Mae I KA CHING yn falch o gyhoeddi y bydd Dafydd Owain yn rhyddhau ei drydedd sengl o’i albwm gyntaf fel artist solo ddydd Gwener, 7 Ebrill.
Bydd ‘Llongyfarchiadau Mawr’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Georgia Ruth, BBC Radio Cymru ar nos Fawrth, 4 Ebrill.
“Dyma gân wnes i ei chyfansoddi am y grefft o ysgrifennu cardiau cyfarch” meddai Dafydd am y sengl newydd.
“Sbardun y gân oedd y geiriau ‘Llongyfarchiadau mawr ar orffen dy PhD’ ac fe ffeindiais fy hun mewn cyfyng-gyngor o ran odlau i gwblhau’r gytgan.
“Dw i bellach wedi fy argyhoeddi fod y gân yn anthem i’r rhai sydd nid yn unig wedi cwblhau eu PhD, ond hefyd wedi dod yn deulu o dri neu’r rhai sydd newydd droi’n dri-deg-tri.
“Mae’na siawns golew y byddai’n chwarae’r gân yma ar fy mhen-blwydd i yn dri-deg-tri, fis Awst 2023.”
Fis Mai, bydd Dafydd yn rhyddhau ei albym gyntaf fel artist solo. I ddathlu’r achlysur, bydd y cerddor yn mentro ar daith fer i lansio’r albym gan alw yn Galeri, Caernarfon, ar 19 Mai a Chapter, Caerdydd, ar 8 Mehefin. Mae tocynnau i’r ddau ddigwyddiad ar gael rŵan.
Enw’r sengl: Llongyfarchiadau Mawr
Artist: Dafydd Owain
Dyddiad rhyddhau: 7 Ebrill 2023
Hyd trac: 4:11
Label: I Ka Ching
Gigs lansio albym: 19 Mai, Galeri (Caernarfon); 8 Mehefin, Chapter (Caerdydd)—Tocynnau ar gael nawr
Cyswllt artist: Dafydd Owain —dafowain@gmail.com/ 0778919224