
Cacwn Bwm – Huw M
Mae label recordiau I Ka Ching yn falch iawn o gyhoeddi sengl newydd gan Huw M – ‘Cacwn Bwm’ – a rhyddheir ddydd Gwener 20fed o Fehefin.
Mae’r artist gwerinol-finimalistaidd, Huw M, yn ei ôl gyda sengl newydd sbon o’r enw ‘Cacwn Bwm’. Dyma sengl gyntaf Huw ers 10 mlynedd, ac mae’r naws llawen, up-beat, hafaidd yn eithaf gwahanol i’w albwm diwethaf, ‘Utica’.
“Cacwn bwm ydy un o’r termau Cymraeg am bumble bees”, eglura Huw. “Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r geiriau ydy llwyddiant timau pêl-droed Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac un o’r ffans yn dweud mai Cymru ydy cacwn bwm y byd pêl-droed. Oherwydd maint eu cyrff, dylie cacwn bwm ddim allu hedfan, a dylie Cymru ddim fod yn ennill lle mewn cystadlaethau fel Cwpan y Byd a’r Euros! Mae’r cacwn bwm yn ysbrydoliaeth i ni gyd – yn profi fod unrhyw beth yn bosib. A pwy a ŵyr pa mor bell fydd tîm merched Cymru yn mynd yn Euro 2025?”
Y cerddorion sy’n serennu ar ‘Cacwn Bwm’ yw Huw ei hun yn canu, chwarae gitars a’r Hammond organ, Bethan Mai (hefyd o Rogue Jones) yn canu, Iolo Whelan ar y drymiau a Lucy Goldbridge yn canu a chwarae’r soddgrwth. Recordiwyd a chynhyrchwyd ‘Cacwn Bwm’ gan Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg.
Mae deunydd amrywiol Huw M yn y gorffennol wedi derbyn adolygiadau 4 seren yn y Times, Record Collector, R2, 8/10 yn Clash yn ogystal â derbyn enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Chwaraewyd caneuon o’r albym ‘Utica’ ar BBC Radio 1 (albwm ‘dan sylw’ gan Huw Stephens), 6Music, BBC Radio 3, Radio Cymru, Radio Wales ac ABC yn Awstralia.
Bydd sengl arall yn cael ei rhyddhau gan Huw M cyn hir ac mae wrthi’n gweithio ar albwm a gaiff ei rhyddhau yn 2026.